Tystebau
DYMA BE MAE EIN CLEIENTIAID YN DWEUD AMDANOM NI ...
Ein Cegin Newydd
Aethom at y cwmni gan iddynt gael ei ganmol gan gyfeillion a gafodd wneud gwaith
ganddynt. Roeddem eisio cael ymestyn ac adnewyddu'r gegin. Cawsom amcangyfrif manwl gan y cwmni o'r gwaith a'r gost, a chychwynwyd y gwaith yn brydlon. Cwblhawyd y gwaith i safon uchel gan y bildar a'i weithwyr. Roedd y gweithlu yn gwrtais, taclus, ac yn gydwybodol, a gorffennwyd y gwaith o fewn yr amser a addawyd. Rydym yn hapus i argymell y cwmni yma.
Gavin Shaw
Estyniadau
Cawsom estyniad yng nghefn y tŷ, a hefyd trawsnewidiwyd ein croglofft. Fe wnaethpwyd y gwaith yn broffesiynol, ac i safon uchel. Yn gyffredinol, roeddem yn fodlon iawn gyda’r cynnyrch terfynol. Byddwn yn fwy na hapus i gynnig i unrhyw un ddod i weld y gwaith gorffenedig pe bai rhywun â diddordeb. Mae modd i chi drefnu hyn drwy A.W. Owen Joinery & Building Contractors.
Derek Owen
Trawsnewid Atigau
Roedd ychwanegu mwy o le yn golygu, efallai, y byddem yn gallu gwasgu tŷ bach a basn ymolchi i mewn. Ddylwn i ddim fod wedi poeni, unwaith eto, daeth Andy i fyny gyda chynllun a fyddai’n ein siwtio i’r dim, ac yn union yr hyn roeddem eisiau. Cwblhawyd y gwaith gan Andy a’i dîm ffantastig, y trawsnewid rhyfeddol yma mewn dim o beth. Cafwyd safon eithriadol o grefftus drwy gydol y prosiect hwn. Yn ogystal â hyn, yn ddyddiol, wrth weithio ar y safle, cliriwyd y llanast adeiladu yn llwyr, roedd hyn yn fonws ychwanegol. Roeddem wrth ein bodd gyda thrawsnewid ein hatig, a hoffem ddiolch o galon i Andy a’i dîm gwych am wneud hyn yn bosibl.
David and Carol Ellis.
Os ydych chi’n meddwl am gael cegin,
ystafell ymolchi neu estyniad newydd...
rhowch alwad i ni am
AMCANBRIS AM DDIM
01248 716115
Crefftwaith 5 seren a chadw fi’n ymwybodol o’r cynnydd a’r digwyddiadau yn aml. Roedd wedi gwneud yr hyn yr oedd wedi ei addo. Gyda’r phrofiad blaenorol gyda gweithwyr eraill ar y datblygiad hwn yn methu troi i fyny gan achosi wythnosau o oedi. Nid oedd hyn yn wir yn achos AW Owen. Busawn bob amser yn mynd yn ôl i'r cwmni yma, dibynadwy a chrefftwyr da. Yn anffodus er nad yn rhad! Neu efallai eich bod yn cael yr hyn rydych yn talu amdano!
Jane Cottam-Marshall
Ar ôl cael amcangyfrif o'r gost gan A. W. Owen, Seiri Coed ac Adeiladwyr, fe benderfynom fynd ymlaen i gael moderneiddio ein stafell ymolchi gyda cawod ar y llawr, a'n stafell 'molchi efo bath yn y llofft. Roeddem angen popeth newydd yn cynnwys dodrefn, teils a phaent ar y waliau, a teils ar y lloriau. Rydym yn falch o ddweud fod y gweithwyr i gyd yn brydlon a chyfeillgar ac yn dwt a gofalus gan orchuddio'r lloria i wneud cyn lleied â phosib o faeddol ac yn clirio ar eu holau bob tro. Cawsom ymgynghori â hwy yn ddyddiol ac roeddynt yn fodlon trafod a gwrando ar ein dymuniad. Roeddynt yn grefftwyr profiadol a medrus, ac rydym yn ddiolchgar ac yn hollol hapus efo'r ddwy ystafell 'molchi. Dymunwn ganmol cwmni A. W. Owen am eu gwasanaeth da a'u gweithwyr dygn a chydwybodol.
Idris a Dilys - Tyddyn Brith.